lliw
Gwedd
Cymraeg

Cynaniad
- /ɬɪu̯/
Geirdarddiad
Celteg *līwos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)leh₃i- ‘glasaidd’ a welir hefyd yn y Lladin līvēre ‘bod yn ddulas’, y Saesneg sloe ‘eirinen dagu’ a'r Bwyleg śliwa ‘eirinen’. Cymharer â'r Gernyweg liw, y Llydaweg liv a'r Wyddeleg lí ‘lliwiad; pryd a gwedd’.
Enw
lliw g (lluosog: lliwiau)
- (ffiseg, opteg) Pelydriad electromagnetig sydd â thonfedd o tua 4,000 (fioled) i tua 7,700 (coch) angstromau a gall gael ei ganfod gan y llygad noeth dynol arferol.
- Mae bodau dynol ac anifeiliaid yn gallu gweld lliw.
Gwrthwynebeiriau
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|
Ansoddair
lliw
- Yn meddu ar liw penodol.
- Ysgrifennodd y llythyr ar bapur lliw.
Cyfieithiadau
|