llyw
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɬɨ̞u̯/
- yn y De: /ɬɪu̯/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg liu o'r Gelteg *φlowjos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *pleu- ‘llifo’ a welir hefyd yn y Lladin plovere ‘glawio’, y Saesneg flow, yr Hen Roeg plóos (πλόος) ‘llongwriaeth’ a'r Sansgrit plávate ‘mae'n nofio’. Cymharer â'r Gernyweg lew ‘llyw’, y Llydaweg leviañ ‘llywio, bod wrth y llyw’, levier ‘peilot’ a'r Hen Wyddeleg luí ‘llyw; rhan ôl carn anifail, cynffon’ (< *φlowjā).
Enw
llyw g (lluosog: llywiau)
- Llafn tanddwr a ddefnyddir i lywio cwch neu long.
- Offeryn sef lifer neu olwyn y tu mewn i gwch neu long i reoli’r darn hwnnw.
- (trwy estyniad, awyrenneg) Aerwyneb cynorthwyol symudol ar awyren sydd fel arfer yn sownd yn y sadiwr fertigol ac yn rheoli cyfeiriad hedfan yn y plân llorwedd.
- (yn ffigurol) Person sy'n rheoli neu'n llywodraethu.
- Tywysog olaf Cymru oedd Llywelyn ein Llyw Olaf.
Cyfystyron
- (2) olwyn llyw, braich llyw, hegl llyw
- (4) rheolwr, llywodraethwr
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: di-lyw, llywio, llywiwr
- cyfansoddeiriau: llywbost, llywodraeth, llywraff
- cyfuniadau: caban llyw, olwyn llyw
Homoffonau
- (yn y De) lliw
Cyfieithiadau
|
|