coch

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Rhai arlliwiau o goch (1)
Cochen, sef benyw bengoch (2).

Cynaniad

  • /koːχ/

Geirdarddiad

Benthycair o'r Lladin coccum ‘aeronen goch; prinwydden (derwen goch); coch y derw’ o'r Hen Roeg kókkos (κόκκος) ‘gronyn, cnewyllyn; prinwydden; coch y derw’. Cymharer â'r Gernyweg kogh ‘sgarlad, fflamgoch’.

Ansoddair

coch (lluosog: cochion; cyfartal coched, cymharol cochach, eithaf cochaf)

  1. Lliw cynradd y mae ei arlliw yn debyg i liw gwaed neu rhuddem ac sydd ar y pen tonfedd-hir eithaf o'r sbectrwm gweladwy.
    Gwisgai'r ferch sgert goch.
  2. (am wallt) lliw browngoch neu orenfrown; cringoch, gwalltgoch, pengoch.
    Mae gwallt coch gyda Nicole Kidman.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau