llaw

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Llaw ddynol.

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɬaːu̯/
  • yn y De: /ɬau̯/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg lau o'r Gelteg *φlāmā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *pl̥h₂meh₂ a welir hefyd yn y Lladin palma ‘cledr llaw’, yr Hen Saesneg folm(e) ‘llaw, cledr llaw’ a'r Hen Roeg palámē (παλάμη) ‘cledr llaw’. Cymharer â'r Gernyweg leuv, y Llydaweg lavig ‘llawio, dylofiad’ a'r Wyddeleg lámh.

Enw

llaw b (lluosog: dwylo)

  1. (anatomeg) Y rhan derfynol ar waelod y fraich ddynol, o dan yr elin a'r arddwrn, a ddefnyddir i afael ac i ddal ac sy'n cynnwys cledr y llaw (palf), pedwar bys a bawd gwrthsymudol.
  1. Enghraifft o gynorthwyo.
    Rhoddodd ei rieni help llaw iddo pan oedd yn symud tŷ.
  2. Person profiadol neu gymwys i wneud tasg benodol.
    Roedd yn hen law ar ladd y gwair a gorffennodd mewn dim o dro.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau