Neidio i'r cynnwys

gafael

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɡavaɨ̯l/
    • ar lafar: /ˈɡavɛl/, /ˈɡaval/
  • yn y De: /ˈɡaːvai̯l/, /ˈɡavai̯l/
    • ar lafar: /ˈɡaːvɛl/, /ˈɡavɛl/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol gauael o'r Hen Gymraeg -gabael o'r Gelteg *gabaglā, berfenw'r ferf *gab-i- ‘cymryd, dal’ (a roes yr Wyddeleg gabh ‘cymryd, (a)restio’) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *gʰh₁bʰ- a welir hefyd yn y Lladin habēre ‘bod gan, bod i’, yr Almaeneg geben ‘rhoi’ a'r Slofeneg gábati ‘gafael’. Cymharer â'r Gernyweg gavel, yr Hen Llydaweg gabael a'r Wyddeleg gabháil ‘atafael(iad), cipiad’.

Berfenw

gafael berf gyflawn ac anghyflawn (bôn: gafael-)

  1. Dal yn dynn â’r llaw, dal cràff ar.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau