canllaw

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Canllaw yn mynd i fyny ochr y grisiau

Geirdarddiad

O'r geiriau can + llaw

Enw

canllaw g/b (lluosog: canllawiau, canllawiaid, canllawion)

  1. Rheol neu egwyddor amhenodol sy'n darparu cyfeiriad i weithred neu ymddygiad.
    Nodwyd rheolau'r cwmni'n glir yn y canllaw ar gyfer gweithwyr newydd.
  2. Cynllun neu esboniad i arwain rhywun wrth osod safonau neu i benderfynu ar gwrs gweithredu.
    Darparwyd canllaw ar gyfer pob aelod newydd o staff er mwyn eu hysbysu o'r hyn oedd yn dderbyniol neu'n annerbyniol.
  3. Rheilen y gellir ei dal a ddefnyddir ar ochr grisiau, llwybr a.y.b. er mwyn tywys a chynnal.
    Gafaelodd yn dynn yn y canllaw er mwyn sicrhau nad oedd yn disgyn ar y grisiau.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau