Wiciadur:Croeso, newydd-ddyfodiaid

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Helo a chroeso!
Mae Wiciadur yn eiriadur a thesawrws amlieithog sy'n rhad ac am ddim. Caiff ei ysgrifennu'n gydweithredol ar y wefan hon gan bobl ledled y wlad. Gall unrhyw un olygu'r cofnodion a geir yma!

Rydym wedi creu 26,422 o erthyglau ers dechrau ym mis Mawrth, 2006, ac rydym yn cynyddu o ddydd i ddydd.

Golygu Wiciadur[golygu]

Mae pobl fel chi yn allweddol wrth gynnal prosiect fel hwn. Tra'ch bod chi'n darllen hwn, mae'n bosib fod rhywun arall yn golygu un o'n cofnodion. Mae llawer o bobl gwybodus ar waith eisoes, ond mae croeso cynnes i bawb!

Nid oes rhaid mewngofnodi er mwyn golygu, ond buasai'n well gennym pe byddech yn gwneud hynny, am ei fod yn hwyluso gweinyddiaeth y wefan. (Sylwer hefyd fod mewngofnodi'n golygu na fydd cyfeiriad IP eich cyfrifiadur yn cael ei arddangos ar hanes y dudalen.) Mae nifer o fanteision dros greu cyfrif hefyd.

Gallwch fwrw ati'n syth drwy ychwanegu neu ddiwygio diffiniad, ychwanegu brawddegau fel esiamplau, neu ein cynorthwyo i fformatio a chategoreiddio cofnodion yn gywir. Gallwch greu tudalen newydd ar gyfer gair neu ymadrodd sydd ar goll hyd yn oed. Byddwch ddewr wrth olygu tudalennau!

Sut ar y ddaear mae caniatau i bawb olygu yn cynhyrchu geiriadur o safon uchel yn hytrach nag anarchiaeth llwyr? Am fod y mwyafrif o gyfrannwyr eisiau helpu, a thrwy gadw'r prosiect yn agored i bawb, rhydd y potensial i greu a gwella cofnodion yn barhaus. Cedwir cofnod o'r holl newidiadau, ac felly gall defnyddwyr eraill wrthdroi golygiadau gwael.

Er mwyn bwrw ati, efallai yr hoffech ddefnyddio'r dolenni "Newidiadau diweddar" neu "Cofnod ar hap" (sydd yn y blwch llywio yng nghornel chwith uchaf y dudalen hon), er mwyn cael syniad o'r math o dudalennau y gallwch ddod o hyd iddynt yn yn fan hon.

Arferion a chwrteisi[golygu]

Un peth y dylech wybod yw rhai o'r arferion y dylech ddilyn a pharchu sydd wedi cael eu benthyg wrth ein chwaer brosiect Wicipedia :

  1. Ceisiwch beidio a dadlau'n ddiangen. Nid fforwm drafod mo Wiciadur. Ar ôl cael trafodaeth gwrtais a rhesymegol, rydym yn ceisio dod i gonsensws eang er mwyn cyflwyno crynodeb cywir, diduedd o'r holl ffeithiau perthnasol ar gyfer darllenwyr y dyfodol.
  2. Rydym yn ceisio sicrhau fod ein cofnodion mor ddiduedd a phosib, gan sicrhau nad yw diffiniadau na disgrifiadau — hyd yn oed ar bynciau llosg — yn lwyfan ar gyfer cyfleu agenda bersonol o unrhyw fath.
  3. Cofiwch mai geiriadur yw hwn, sy'n golygu nad yw Wiciadur yn nifer o bethau gwahanol.
  4. Os ar unrhyw adeg, rydych yn teimlo'n anghyfforddus yn newid gwaith rhywun arall, a'ch bod eisiau ychwanegu eich barn (neu gwestiwn neu sylwad) am gofnod neu unrhyw dudalen arall, gallwch wneud hyn ar ei dudalen sgwrs (cliciwch ar y tab "sgwrs" ar frig y dudalen. Fodd bynnag, sylwch ein bod yn ceisio cadw'r sgwrs er mwyn trafod ffyrdd i wella'r geiriadur hwn.

Am fwy o wybodaeth am ein polisïau a chanllawiau arddull, gweler Porth y Gymuned.

Gweler hefyd[golygu]

Ceir mwy o wybodaeth gyffredinol a disgrifiadau o arferion y gymuned ar y tudalennau canlynol: