Neidio i'r cynnwys

cnawd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /knau̯d/

Geirdarddiad

Brythoneg *knāto- o’r ferf *knā-jo- ‘cnoi, brathu’ a roddodd cnoi. Cymharer â’r Gernyweg kneus ‘cnawd’ a’r Llydaweg kreud ‘cnawdolrwydd; corff’.

Enw

cnawd g

  1. Meinwe feddal y corff, ac ynddi gyhyr sgerbydol a braster gan mwyaf.
    Rhaid oedd torri peth o'r cnawd ymaith fel rhan o'r llawdriniaeth.
  2. Cig anifail, yn enwedig y rhannau bwytadwy a ddefnyddir am fwyd.
  3. (mewn ystyr estynedig) Rhan fwydionog, bwytadwy fel arfer, o ffrwyth neu lysieuyn.
  4. Lliw melyn-binc, lliw croen rhai Cawcasiaid.
    Gwisgai'r ferch flowsen lliw cnawd.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau