afanc

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Darlun o afancod

Cynaniad

  • /ˈavaŋk/

Geirdarddiad

Celteg *abankos ‘anghenfil dŵr’ ar *abū ‘dŵr, afon’, fel yn afon. Cymharer â'r Llydaweg avank ‘afanc’ a'r Wyddeleg abbac ‘corrach’.

Enw

afanc g (lluosog: afancod)

  1. (sŵoleg) Cnofil mawr lled-ddyfrol o'r genws Castor, sydd â blew brown trwchus, cynffon lydan fflat, traed ôl gweog a blaenddannedd miniog wedi'u hymaddasu er mwyn cnoi rhisgl, torri coed, ac adeiladu argaeau a gwalau tanddwr
  2. Anghenfil dŵr chwedlonol dynnwyd o Lyn yr Afanc yn Afon Lledr.

Cyfystyron

Cyfieithiadau