afon
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈavɔn/
- yn y De: /ˈa(ː)vɔn/
Geirdarddiad
Brythoneg *abonā o’r Gelteg *abū, *abonen o’r ffurf Indo-Ewropeg *h₂ep-h₃ō ~ *h₂p-h₃nés o’r gwreiddyn *h₂ep- ‘dŵr’ a welir hefyd yn y Lladin amnis ‘glaw’, yr Hetheg ḫa-pa-aš ‘afon’ a’r Berseg âb (آب) ‘dŵr’. Cymharer â’r Gernyweg avon, y Llydaweg aven a’r Wyddeleg abhainn.
Enw
afon b (lluosog: afonydd)
- Nant fawr sy’n cario dŵr o’r ardaloedd uchaf i’r man isaf, gan ddiweddu’r daith yn y môr. Weithiau gall afonydd orlifo.
- Llifa’r afon Taf trwy ganol dinas Caerdydd.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: afonig, afonol, isafon
- cyfansoddeiriau: afondaith, afondir, afondduw, afonfarch, afonladrad
- cyfuniadau: afon drawslif, afon gydlif, afon wrthlif, afon wythiennog, genau afon, glan afon, gwely afon
Cyfieithiadau
|
|