Neidio i'r cynnwys

pryf

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Pryfed (2): (gyda'r cloc) pryf llwyd, mosgito, pryf lladd, pryf cacynaidd, pryf teiliwr a phryf tŷ

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /prɨːv/
    • ar lafar: /prɨː/
  • yn y De: /priːv/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg prem ‘abwyd, pryf genwair, llyngyr’ o'r Gelteg *kʷrimis o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *kʷŕ̥mis. Cymharer â'r Gernyweg pryv ‘abwydyn’, y Llydaweg preñv ‘abwydyn’ a'r Wyddeleg cruimh ‘cynrhonyn; abwydyn’.

Enw

pryf g (lluosog: pryfed)

  1. (sŵoleg, pryfeteg) Unrhyw arthropod bach o ddosbarth yr Insecta sy'n anadlu aer, ac iddo gorff teiran (pen, thoracs ac abdomen), tri phâr o goesau ac hyd at ddau bâr o adenydd
  2. (yn y Gogledd) Pryfyn byr, llyfn o gorff, o’r urdd Diptera, yn enwedig o’r teulu Muscidae (h.y. y pryfed cylionol), ac iddo ben symudol, pâr o adenydd blaen tryloyw pilennog, pâr o wrthbwysyddion ôl, a gên-rannau sugnol ac yn aml hefyd treiddiol, ac sy’n epilio cynrhon ac yn bwysig fel peillwr a chludwr clefyd

Cyfystyron

  1. pryfyn, trychfil, trychfilyn
  2. cleren, cylionen

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau