oen

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

oen

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /oːɨ̯n/
  • yn y De: /ɔi̯n/
    • ar lafar: /oːn/

Geirdarddiad

Hen Gembraeg oyn o'r Gelteg *ognos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂egʷnós a welir hefyd yn y Lladin agnus, yr Hen Roeg amnós (ἀμνός) a'r Fwlgareg ágne (а́гне). Cymharer â'r Gernyweg on, y Llydaweg oan a'r Wyddeleg uan.

Enw

oen g (lluosog: ŵyn)

  1. Dafad ifanc, hyd at un blwydd oed.
    Rhoddodd y ddafad enedigaeth i'r oen yn y Gwanwyn.
  2. Cnawd yr anifail a ddefnyddir am fwyd.
    Yn aml, daw cig oen o Gymru neu o Seland Newydd.

Termau cysylltiedig

Dihareb

Odlau

Cyfieithiadau

Iseldireg

Enw

oen g/d

  1. asyn sydd wedi'i sbaddu
  2. (bratiaith) Person ffol; twpsyn, ynfytyn.