neidr

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Neidr wasgu (anaconda).

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈnei̯dr/
  • yn y De: /ˈnei̯dr̩/
    • ar lafar: /ˈnei̯dɪr/

Geirdarddiad

O'r Gelteg *natrixs o'r ffurf *n̥h₁-tr-íh₂, a welir hefyd yn y Lladin natrīx ‘neidr ddŵr’ a'r Almaeneg Natter ‘gwiber’, estyniad ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *(s)néh₁- ‘nyddu, gwnïo’ a roes y ferf nyddu. Cymharer â'r Gernyweg nader ‘gwiber’, y Llydaweg naer a'r Wyddeleg nathair.

Enw

neidr b (lluosog: nadroedd / nadredd)

  1. (swoleg) Ymlusgiad cennog digoesau o'r is-urddau Serpentes neu Ophidia (urdd Squamata), a chanddo corff hirfain, silindrog a thaprog, llygaid diamrant, safn estynadwy iawn, a thafod fforchog, ac a geir yn y rhan fwyaf o gylchfaoedd trofannol a thymherus.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau