mêl

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
mêl

Cynaniad

  • /meːl/

Geirdarddiad

O'r Gelteg *meli o'r Indo-Ewropeg *mélh₁-it- a welir hefyd yn y Lladin mel, y Gotheg miliþ a'r Albaneg mjaltë. Cymharer â'r Llydaweg a'r Gernyweg mel, y Wyddeleg a'r Aeleg yr Alban mil.

Enw

mêl g anrhifadwy

  1. Hylif melynfrown trioglyd melys a gynhyrchir o neithdar blodau gan wenyn ac a ddefnyddir ganddynt fel bwyd i'w larfâu. Yn aml caiff ei ddefnyddio i felysu tê, wrth goginio neu caiff ei daenu ar fwydydd wedi'u pobi.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau