blodyn

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Blodyn gyda phetalau porffor llachar.

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈblɔdɨ̞n/
  • yn y De: /ˈbloːdɪn/, /ˈblɔdɪn/

Geirdarddiad

Ffurf unigol o'r lluosog anarferedig blawd ‘blodau’ o'r Gymraeg Canol blawt o'r Gelteg *blātus o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *bʰleh₃- a welir hefyd yn y Lladin flōs a'r Saesneg bloom. Cymharer â'r Gernyweg bleujen, y Llydaweg bleuñv a'r Wyddeleg bláth.

Enw

blodyn g (lluosog: blodau)

  1. (botaneg) Ffurfiad atgenhedlu cibhadog (planhigion blodeuol) sydd fel arfer yn cynnwys sepalau a phetalau. Yn aml maent yn lliwgar.
  2. Term o annwylder.
    Sut wyt ti, blodyn?
    Sut wyt ti, blod?

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau