llaeth
Jump to navigation
Jump to search
Cymraeg
Cynaniad
- Cymraeg y Gogledd: /ɬaːɨ̯θ/
- Cymraeg y De: /ɬai̯θ/
- iaith lafar: /ɬaːθ/
Geirdarddiad
Benthyciad o'r Lladin lactem. Cymharer â'r Gernyweg leth, y Llydaweg laezh a'r Hen Wyddeleg lacht.
Enw
llaeth g (lluosog: lleithion)
- Hylif gwyn a gynhyrchir gan chwarennau bronnol er mwyn maethu yr ifanc. Yn aml, cyfeiria at yr hylif a ddaw o'r fuwch.
- Mae babanod yn yfed llaeth am ei fod yn eu cryfhau.
Cyfystyron
Homoffonau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: llaetha, llaethig, llaethog, llaethol, llaethu, llaethwr
- cyfansoddeiriau: ysgytlaeth
- llaeth anwedd
- llaeth cyddwys
- llaeth enwyn
- llaeth glas
- llaeth magnesia
- llaeth pasteureiddiedig
- llaeth powdwr
- llaeth posel
- llaeth sgim
- llaeth tor
- llaeth wedi'i ddiheintio
Cyfieithiadau
|
|