geni
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈɡɛnɪ/
- yn y De: /ˈɡeːni/, /ˈɡɛni/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol geny ‘geni; esgor ar’ o'r Gelteg *gan-i̯o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ǵenh₁- ‘cenhedlu’ a welir hefyd yn y Lladin gignere ‘cenhedlu’, yr Hen Roeg geínomai (γείνομαι) ‘geni; cenhedlu’ a'r Sansgrit janati (जनति) ‘cenhedlu’. Cymharer â'r Gernyweg genys ‘ganedig’, y Llydaweg genel ‘geni; esgor ar’ a'r Hen Wyddeleg gainithir ‘genir’.
Berfenw
geni berf amhersonol (bôn: gan-)
- Cael genedigaeth, dod i'r byd drwy enedigaeth fel epil.
Nodyn defnydd
- Mae'r Cymraeg llenyddol yn defnyddio'r ffurfiau amhersonol gyda gwrthrych: Ganwyd hi yn Lloegr
- Mae'r Cymraeg llafar yn defnyddio'r cystrawen oddefol gyda cael: Cafodd hi ei geni yn Lloegr
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|