cael
Cymraeg
Cynaniad
Geirdarddiad
Ffurf ryngdorrol ar caffel o'r Cymraeg Canol caffael, berfenw'r Gelteg *kab-ei-, addasiad y gwreiddyn Indo-Ewropeg *kh₂pi- a welir hefyd yn y Lladin capere ‘dal, cipio’, yr Almaeneg haben ‘bod gan/gyda’ a'r Albaneg kap ‘gafael’. Cymharer â'r Gernyweg kavos a'r Llydaweg kavout.
Berfenw
cael berf anghyflawn, afreolaidd
- Meddiannu, cymryd meddiant o, dod i feddiant, perchnogi.
- Derbyn.
- Roeddwn i wedi cael anrheg hyfryd wrth fy ffrind.
- Dod o hyd i, darganfod, dod ar draws, taro ar.
- Cymryd sylwedd penodol (yn enwedig bwyd neu ddiod) neu weithred.
- Rydw i'n cael grawnfwyd i frecwast bob bore.
- Alla i gael cipolwg ar y papur newydd os gwelwch yn dda?
- Rydw i'n mynd i gael bwyd Indiaidd i swper.
- Cyflawni cyfathrach rywiol gyda rhywun, cenhedlu, beichiogi, peri geni.
- Mae e wastad yn ymffrostio ynglyn â faint o ferched mae e wedi cael.
- Rhoi genedigaeth i.
- Maen nhw wedi cael babi - bachgen bach.
- Twyllo, neu chwarae tric ar rywun.
- Rwyt ti wedi llwyddo i'm cael i o'r diwedd!
Amrywiadau
Cyfystyron
Cyfieithiadau
|