ffon
Gwedd
Gweler hefyd → ffôn
Cymraeg
Cynaniad
- /fɔn/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol ffonn o’r Gelteg *sφondo- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *sph₂en- ‘cunnog bren’ a welir hefyd yn y Lladin sponda ‘gwely’, y Saesneg spoon ‘sglodyn’ a’r Hen Roeg sphḗn (σφήν) ‘lletem’. Cymharer â’r Llydaweg houn ‘pastwn’ a’r Wyddeleg sonn ‘polyn’.
Enw
ffon b (lluosog: ffyn)
- Darn hir o bren crwn, anhyblyg a syth sy'n cael ei ddal yn y llaw a'i ddefnyddio at sawl diben (e.e. arf ayb.).
- Cansen neu ddarn arall o bren a ddefnyddir er mwyn cynorthwyo wrth cerdded.
- Croesfar sy'n ffurfio gris ar ysgol.
- Gwialen lorweddol sydd â mecanwaith pwli ynghlwm wrth gordyn tynnu a ddefnyddir i agor neu gau cyrtens (llenni).
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: ffonnig
- cyfansoddeiriau: ffonwydd, gwialenffon
- ffon gansen
- ffon fugail, ffon bugail, bugeilffon
- ffon cyrten, ffon gyrtens, ffon llen, ffon lenni
- ffon gof
Cyfieithiadau
|
|