Neidio i'r cynnwys

cymal

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

Geirdarddiad

O’r geiriau cym- + mal ‘aelod o’r corff’, yr ail elfen o’r Gelteg *melsā o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *mel- ‘aelod; asio, cydio’ a welir hefyd yn yr Hen Roeg mélos (μέλος) ‘aelod o’r corff; alaw’, y Dochareg B mälk ‘asio, cydio’ a’r Sansgrit marman ‘aelod o’r corff’. Cymharer â’r Gernyweg mell ‘cymal’ a’r Llydaweg mell ‘cymal; cefngymal, fertebra’.

Enw

cymal g (lluosog: cymalau)

  1. (anatomeg) Pwynt o'r sgerbwd lle mae dau asgwrn neu fwy'n cydgysylltu, gan alluogi'r pwynt yna i gael ei blygu neu sythu.
  2. (gramadeg) Grŵp o eiriau sy'n cynnwys goddrych a thraethiad ac yn ffurfio rhan o frawddeg gyfansawdd neu gymhleth. Os yw cymal yn gwneud synnwyr ar ei ben ei hun, yna mae'n gymal annibynnol (prif gymal); os nad yw, mae'n gymal dibynnol (isgymal neu gymal isradd).

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau