cenedl

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

Geirdarddiad

Cymraeg Canol kenedyl o’r Hen Gymraeg kenedel o’r Gelteg *kenetlom o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ken- ‘tarddu, hanfod’, yr un elfen a welir yn cenau, cynt. Cymharer â'r Gernyweg kenedhel, y Llydaweg kenel ‘grŵp ethnig’ a'r Gwyddeleg cineál ‘math, teip, siort, rhywogaeth’.

Enw

cenedl g (lluosog: cenhedloedd)

  1. Grŵp o bobl sy'n rhannu agweddau o iaith, diwylliant a/neu ethnigrwydd.
  2. Cymuned sefydlog gyda hanes cyfansoddiadol, a ffurfiwyd ar sail iaith, tiriogaeth, bywyd economaidd a chyfansoddiad seicolegol a welir mewn diwylliant cyffredin.
  3. (gramadeg) Rhyw enw, rhagenw neu ansoddair, sef benywaidd, gwrywaidd a diryw.

Cyfystyron

  1. ethnigrwydd
  2. nasiwn

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau