cenau
Jump to navigation
Jump to search
Cymraeg
Geirdarddiad
Cymraeg Canol keneu o’r Gelteg *kanawon- o’r Indo-Ewropeg *kn̥-Hwon o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *(s)ken- ‘tarddu, hanfod; ffres, newydd, ifanc’, a welir hefyd yn y Rwseg ščenók ‘ci bach’, yr Armeneg skund ‘ci bach’ a’r Sansgrit kanyā́ ‘hogen, hoges’. Cymharer â’r Llydaweg kenow ‘cenau’ a’r Gwyddeleg cana ‘bleiddian, cenau’.
Enw
cenau g (lluosog: cenawon)
- (swoleg) Un ifanc o epil rhai anifeiliaid megis arth, blaidd, cath, ci, llew, a.y.y.b.
- Cnaf, gwalch, adyn, dyn drygionus neu ddiffaith.
Cyfystyron
Cyfieithiadau
|
|