Wiciadur:Termau
Gwedd
Dyma restr o dermau, geirfa ac ymadroddion a ddefnyddir yn y prosiect hwn.
Trwy glicio ar y dolenni glas, byddwch yn mynd yn syth i'w dudalen berthnasol.
Cynnwys y dudalen: A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
A
[golygu]- acronym - Talfyriad sy'n cael ei ynganu fel y "gair" y byddai'n sillafu e.e. NATO.
- adferf - Gair fel hynod, yn aml ac sydd gan amlaf yn addasu ansoddair, berf neu adferf arall (S. adverb).
- affeithiad - Cyfnewid i lafariad a achosir gan gymathiad rhannol yn enwedig i lafariad neu ledlafariad sy'n digwydd yn y sillaf ddilynol, e.e. gair > geiriau (S. vowel affection, umlaut)
- anarferedig, darfodedig (S. obsolete)
- ansoddair - Gair fel mawr neu plentynaidd ac sydd fel arfer yn addasu enw (S. adjective).
- arddodiad (S. preposition)
B
[golygu]- b - cenedl enw benywaidd.
- bachigyn - ffurf ar air sy'n dynodi bychander, ieuenctid, amhwysigrwydd neu annwyldeb. (S. diminutive)
- benthycair - gair a fenthyciwyd neu a gyfaddaswyd o iaith arall. (S. loanword)
- berf - gair sy'n dynodi gweithred neu weithgarwch. (S. verb)
- berfenw (S. verbal noun)
- bôn (S. stem)
- bratiaith - Yn dynodi iaith sy'n unigryw i bwnc neu broffesiwn penodol. Iaith a ystyrir yn gwrs neu'n anweddus. (S. slang)
- byrfodd - ffurf fyrrach o air, e.e. pan fod llythrennau cychwynnol geiriau'n cael eu defnyddio, acronymau. Mae a.y.b. yn fyrfodd o ac yn y blaen. (S. abbreviation)
C
[golygu]- CC - Cyn Crist.
- categori - casgliad o gofnodion, a ddefnyddir i gategoreiddio neu grwpio cofnodion sydd yn debyg o ran cystrawen (e.e. enwau Cymraeg, ansoddeiriau Saesneg)
- cenedl - rhyw enw, rhagenw neu ansoddair, e.e. benywaidd, gwrywaidd, diryw, deuryw(iol). (S. gender)
- cofnod - tudalen sy'n cynnwys esboniad neu ddiffiniad o air neu ymadrodd. (S. entry)
- cyfaddasiad - addasu benthycair i'w Cymreigio yn well. (S. adaptation)
- cyfansoddair - gair wedi ei lunio trwy gyplysu ynghyd ddau air neu fwy. (S. compound)
- cyfartal - gradd, neu ffurfdroad, o ansoddair cymaradwy. Defnyddir y ffurf gyfartal i ddynodi fod rhywbeth "yr un mor... a..." e.e. Roedd y ddau fachgen cyn daled a'i gilydd. (S. equative)
- cymaradwy - (am ansoddair) yn medru cael ei gymharu gyda ffurfiau cymharol, cyfartal ac eithaf sydd â'r terfyniadau -ach, -ed a -af. Enghreifftiau: tal, talach, cyn daled, talaf. Ni ellir cymharu rhai ansoddeiriau, megis dyddiol ac eraill.
- cymathiad (S. assimilation)
- cymharol - gradd, neu ffurfdroad, o ansoddair cymaradwy. Gan amlaf, cyfeiria at rywbeth sydd ‘yn fwy na’ ond nid ‘y mwyaf’ (gweler hefyd y radd eithaf). Ni ellir cymahru rhai ansoddeiriau e.e. dyddiol, ychwanegol, arall a.y.b. (S. comparative)
- cynaniad, ynganiad (S. pronunciation)
- cysefin - anooddair yn ei ffurf fwyaf naturiol, h.y. ansoddair na sydd wedi cael ei newid o gwbl. (S. positive)
- cywasgiad - cwtogi dau air neu fwy, e.e. neu’r, sy’n, wedi’u. (S. contraction)
Ch
[golygu]D
[golygu]- d - cenedl enw diryw.
- dadfathiad (S. dissimilation)
- darfodedig, anarferedig (S. obsolete)
- dyddiedig - Gair neu ymadrodd a oedd arfer cael ei ddefnyddio'n gyffredin, ond sydd bellach yn anffasiynol; e.e. hoyw yn yr ystyr ‘lliwgar, hapus’, weiarles wrth gyfeirio at ‘radio’. (S. dated)
Dd
[golygu]E
[golygu]- enw (S. noun)
- enw afon (S. rivername)
- enw gwyddonol (S. scientific name)
- enw lle (S. placename)
- enw personol (S. personal name)
- enw priod (S. proper noun)
- enw torfol (S. collective)
F
[golygu]Ff
[golygu]- ffigurol - Nid yn llythrennol. Yn aml pan ddefnyddir geiriau ag ystyron trosiadol e.e. "mochyn" am berson barus, neu'r "Goron" i gyfeirio at y frenhiniaeth.
- ffurf
- ffurf dorfol (S. collective)
- ffurf gyfochrog (S. byform)
- ffurf gytras (S. cognate)
- ffurf lluosog (S. plural)
- ffurf unigol (S. singular)
- ffurf unigolynnol (S. singulative)
- ffurfiol - Disgrifia gyd-destun lle bo'r dewis o eiriau a chystrawen wedi'u cyfyngu i'r termau ac iaith a dderbynir gan ysgolheigion a sefydliadau swyddogol fel yr iaith fwyaf addas a phriodol. Yn aml, bydd termau anffurfiol (yr iaith a ddefnyddir mewn iaith lafar) yn anaddas mewn amgylchiadau ffurfiol.
G
[golygu]- g - cenedl enw gwrywaidd.
- geiryn - rhan ymadrodd nas treiglir ac nas defnyddir ar ei ben ei hun (e.e. fe, y, ydd). (S. particle)
- gwreiddyn - bôn tybiedig yr olrheinir iddo air neu grŵp o eiriau cytras. (S. root)
Ng
[golygu]H
[golygu]- hynafol - Gair na sydd yn cael ei ddefnyddio bellach ond gellir dod o hyd iddo o hyd mewn rhai testunau modern (e.e. cyfieithiadau o'r Beibl). Gan amlaf maent yn ddealladwy i bobl ddysgedig. Er enghraifft, mae efe a hyhi yn rhagenwau hynafol er mai'r term cyfoes fyddai ef neu hi. Mae hynafol yn derm cryfach na dyddiedig, ond nid yw cyn gryfed a darfodedig. (S. archaic)
I
[golygu]- iaith lafar - Yn dynodi ffordd o siarad neu ysgrifennu sydd yn nodweddiadol o sgwrs gyffredin; anffurfiol. Amdano neu'n ymwneud â sgwrs; sgyrsiol. (S. vernacular, colloquial language)
- idiomatig - Yn ymwneud â, neu'n cydymffurfio â'r math o fynegiant a gysylltir â iaith.
J
[golygu]L
[golygu]Ll
[golygu]- llythrennol - Yn union fel a nodir; i'w ddarllen a'i dderbyn fel ag y mae a heb ei ddadansoddi ymhellach; nid yn ffigurol nac yn drosiadol. (S. literal)
M
[golygu]N
[golygu]O
[golygu]- ôl-ddodiad - geiryn a ychwanegir ar ddiwedd gair i addasu ystyr y gair. (S. suffix)
P
[golygu]- Pwll tywod - tudalen wag y gellir ei defnyddio er mwyn arbrofi a gweld sut y bydd eich cyfraniad yn edrych.
Ph
[golygu]R
[golygu]Rh
[golygu]- rhagddodiad - geiryn a ychwanegir ar ddechrau gair i addasu ystyr y gair. (S. prefix)
- rhifadwy - Disgrifia enw a ellir ei ddefnyddio â'r fannod (y, yr neu 'r yn Gymraeg) a chyda rhifau, ac felly mae ganddo ffurf luosog. Gwrthwynebair: anrhifadwy.
S
[golygu]T
[golygu]- tafodieithol - amdano neu'n ymwneud â tafodiaith. Iaith lafar na sydd ieithyddol safonol. (S. dialectal)
- talfyriad - gair wedi ei lunio trwy golli un sillaf neu fwy o air amlsillafog, fel ffôn o teleffon; ffurf dalfyredig. (S. clipping, clipped word)
- tarddair - gair sy'n tarddu o air arall (e.e. berfol o berf, geiryn o gair, anffurfiol o ffurfiol o ffurf). (S. derivative)
- terfyniad - rhan derfynol gair, yn benodol elfen derfynol a ychwanegir at air neu fôn geiriol i fynegi perthynas neu newid ystyr. (S. ending)
- trawsosodiad (S. metathesis)
- treiglad (S. mutation)
- Tudalen sgwrs - tudalen a ddefnyddir er mwyn codi cwestiwn neu drafodaeth am gynnwys cofnod.
Th
[golygu]U
[golygu]W
[golygu]Y
[golygu]Mae'r cofnod hwn yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.