dryll

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /drɨ̞ɬ/
  • yn y De: /driːɬ/, /drɪɬ/
  •  dryll    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Celteg *drusli(jo) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *dʰreus- ‘torri’n ddarnau’ a welir hefyd yn yr Otheg drauhsos ‘briwsion, lympiau’ a'r Latfieg druska ‘briwsionyn, tameidyn’. Cymharer â'r Llydaweg druilh.

Enw

dryll g (lluosog: drylliau)

  1. Arf tân cludadwy sydd â chyflymder tanio uchel a thaflwybr cymharol wastad, megis reiffl, gwn haels (dryll pelets) neu bistol.
    Tynnodd y lleidr ddryll allan o'i boced.
  2. Darn toredig, rhan o rywbeth.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau