alarch
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈalarχ/
- yn y De: /ˈaːlarχ/, /ˈalarχ/
Geirdarddiad
O'r Frythoneg *elarsko-, estyniad ar y Gelteg *elon (a roes yr Wyddeleg eala) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₁el- ‘aderyn dŵr’ a welir hefyd yn y Lladin olor ‘alarch’, Swedeg (taf.) al(l)a ‘hwyaden gynffonhir’, yr Hen Roeg eléa (ἐλέα) ‘aderyn y gors’ a'r Hetheg alilas. Cymharer â'r Gernyweg alargh a'r Llydaweg alarc'h.
Enw
alarch g (lluosog: elyrch)
- (adareg) Unrhyw un o amryw rywiogaethau o adar dŵr mawr troedweog o dylwyth y Cygnus. Mae gan y mwyafrif ohonynt blu gwyn i gyd, pig llydan, coesau bychain, a gwddf hir, main ac yn osgeiddig crwm.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|