tylluan

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Tylluan fannog

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /təˈɬɨ̞.an/
  • yn y De: /təˈɬiː.an/, /təˈɬi.an/

Geirdarddiad

Gynt tyllhuan, cyfansoddair o'r elfen anhysbys tyll- a'r Gymraeg Canol cuan, cwan ‘tylluan’ o'r Gelteg *kuwannos, adleisair yn dynwared hŵt yr aderyn. Cymharer â'r Gernyweg kowan a'r Llydaweg kaouenn.

Enw

tylluan b (lluosog: tylluanod)

  1. (adareg) Unrhyw un o amryw o adar ysglyfaethus o’r urdd Strigiformes sy’n nosol yn bennaf ac yn edrych ymlaen. Mae ganddynt olwg deulygad, cyfyngiad ar symudiad eu llygaid a chlyw da iawn.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau