tyfu

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈtəvɨ̞/
  • yn y De: /ˈtəvi/

Geirdarddiad

Celteg *tum-ī- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *tum-éh₁- ‘yn chwyddo’, ffurf stadus *tum- ‘chwyddo’ a welir hefyd yn y Lladin tumēre ‘chwyddo’ a'r Lithwaneg tumė́ti ‘tewhau; ceulo, tolchi’. Cymharer â'r Gernyweg tevi ‘tyfu’ a'r Llydaweg teñvañ ‘creithio; cymryd (am impyn)’. Gair sy'n gysylltiedig â twf.

Berfenw

tyfu berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: tyf-)

  1. Mynd yn fwy.
    Mae plant yn tyfu'n gyflym.
  2. Ymddangos neu flaguro.
    Roedd y blodau'n dechrau tyfu yn y cloddiau.

Termau cysylltiedig

Cyfystyron

Cyfieithiadau