tŷ
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /tɨː/
- yn y De: /tiː/
Geirdarddiad
Celteg *tegos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)teg- ‘gorchuddio’ fel yn to ac a welir hefyd yn y Lladin tegere ‘gorchuddio, gwisgo’, yr Hen Roeg (s)tégos ‘to’, stégein ‘gorchuddio’ a'r Sansgrit sthágati (स्थगति) ‘gorchuddio’. Cymharer â'r Gernyweg chi, y Llydaweg ti a'r Wyddeleg teach.
Enw
tŷ g (lluosog: tai)
- Adeilad sy'n gwasanaethu fel anheddle i un neu fwy o bobl.
- Adeilodd y dyn dri tŷ gan eu gwerthu'n gyflym.
Termau cysylltiedig
- cyfansoddeiriau: amaethdy, beudy, ffermdy, gwesty, goleudy, hafoty, llety, plasdy
- gwraig tŷ
- llond tŷ
- tŷ bach
- tŷ gwydr
- tŷ ar wahân
- tŷ teras
Cyfieithiadau
|
|