pwynt
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /puːɨ̯nt/
- yn y De: /pʊi̯nt/
Geirdarddiad
O'r Saesneg Canol poynt o'r Hen Ffrangeg point o'r Lladin pūnctus. Dybledau pwnc, pwyth.
Enw
pwynt g (lluosog: pwyntiau)
- Moment benodol mewn digwyddiad neu hanesyn.
- Ar y pwynt hynny, agorodd y drws.
- Testun mewn trafodaeth neu ddadl; cynnig neu ffocws sgwrs.
- Rydw i'n anghytuno â'r pwynt hynny.
- Pen miniog gwrthrych.
- Roedd angen torri'r croen gan ddefnyddio pwynt y gyllell.
- Pwrpas neu ddiben.
- Beth yw'r pwynt o wneud hynny?
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: di-bwynt, pwyntio, pwyntol
- cyfansoddeiriau: agosbwynt, amcanbwynt, berwbwynt, blasbwynt, canolbwynt, cyfarbwynt, cyferbwynt, chwylbwynt, dallbwynt, deubwynt, diflanbwynt, diweddbwynt, gwasgbwynt, gwlithbwynt, gwrthbwynt, isafbwynt, lleolbwynt, metabwynt, nwlbwynt, ôl-bwynt, pelenbwynt, pinbwynt, rhewbwynt, safbwynt, sychbwynt, tâl-bwynt, torbwynt, tri-phwynt, trobwynt, tyfbwynt, uchafbwynt, uwcholeubwynt, ymdoddbwynt
- cyfuniadau: pwynt degol, pwynt gramadegol
Cyfieithiadau
|
|