Neidio i'r cynnwys

morthwyl

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Morthwyl crafanc (1).

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈmɔrθuɨ̯l/
  • yn y De: /ˈmɔrθui̯l/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol morthwl o'r Frythoneg *mortulos o'r Lladin martulus. Cymharer â'r Gernyweg morthol a'r Llydaweg morzhol.

Enw

morthwyl g (lluosog: morthwylion)

  1. Erfyn llaw sydd â phen trwm wedi'i osod ar goes hir ac a ddefnyddir i daro rhywbeth.
    Defnyddiais y morthwyl i daro'r hoelion i mewn i'r pren.

Amrywiadau

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau