merfaidd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Geirdarddiad

O’r ansoddair llenyddol merf + -aidd o’r Gelteg *merwi- ‘difywyd’ o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *mer(H)- ‘rhwbio, dileu, niweidio’ a welir hefyd yn y Lladin mortārium ‘breuan’, yr Hen Uchel Almaeneg maro, marawi ‘brau, tyner’ a’r Hen Roeg maraínō (μαραίνω) ‘diffodd’. Cymharer â’r Wyddeleg Canol meirb ‘difywyd; diynni, llipa, gwan, aneffeithiol’.

Ansoddair

merfaidd

  1. Heb flas digonol neu awch i fod yn ddymunol; ddim yn flasus.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau