llwyddo

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɬʊɨ̯ðɔ/
  • yn y De: /ˈɬʊi̯ðɔ/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol llwydaw o'r Gelteg *φlēd-o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *plei̯d- ‘ceisio’ a welir hefyd yn yr Almaeneg fleißen ‘ymdrechu’.

Berfenw

llwyddo berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: llwydd-)

  1. Cyflawni nod neu'r hyn a ddymunir; bod yn llwyddiannus.
    Braf oedd gweld y bachgen yn llwyddo yn ei arholiadau ar ôl yr holl adolygu.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

  • Llydaweg: dont da vat, dont da benn, ober berzh
  • Saesneg: succeed