lloeren

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Geirdarddiad

O'r geiriau lloer + -en

Enw

lloeren b (lluosog: lloerennau, lloerenni, lloerennod)

  1. Lleuad neu gorff arall llai o faint sydd yn cylchdroi o amgylch un mwy o faint.
    Mae'r lleuad yn loeren naturiol i'r Ddaear.
  2. Darn o offer a grewyd gan ddyn er mwyn ei roi yn y gofod i gylchdroi o amgylch y Ddaear yn trosglwyddo gwybodaeth, data a.y.y.b.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau