Neidio i'r cynnwys

lle

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

Geirdarddiad

Celteg *legiom o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *legʰ- ‘gorwedd’ a welir hefyd yn y Lladin lectus ‘gwely, gwâl, glwth’, yr Hen Roeg léchos ‘gwely’ a'r Tochareg lake ~ leke ‘gwely’. Cymharer â'r Gernyweg le, y Llydaweg anarferedig le a'r Wyddeleg luí ‘gorweddiad; tuedd’.

Enw

lle g (lluosog: llefydd, lleoedd)

  1. Lleoliad neu safle.
  2. Man i rhywun i eistedd
    Gofynnwyd am le i wyth person yn y bwyty.
  3. Rôl neu bwrpas
    Nid fy lle i yw dweud a yw dy ymddygiad yn addas neu beidio.
  4. Safle aelod o dîm chwaraeon
    Collodd ei le ar y tîm cenedlaethol.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau