llafar
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈɬavar/
- yn y De: /ˈɬaːvar/, /ˈɬavar/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol llauar o'r Gelteg *φlabros ‘siaradus’. Cymharer â'r Llydaweg a'r Cernyweg lavar, â'r Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban labhar.
Ansoddair
llafar
- Yn ymwneud â'r llais, y lleferydd neu'r llefaru.
- Yn cael ei ddweud yn hytrach na'i ysgrifennu.
- Perfformiodd y ferch yn dda yn ei harholiad llafar.
- (ieithyddiaeth) Yn dynodi ffordd o siarad neu ysgrifennu sy'n nodweddiadol o sgwrs anffurfiol.
- Amdano neu'n ymwneud â sgwrs; sgyrsiol neu iaith lafar.
Cyfystyron
Gwrthwynebeiriau
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|