hud

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • Cymraeg y gogledd: /hɨːd/
  • Cymraeg y de: /hiːd/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol hut, o'r Gelteg *soitos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *seh₂i- ‘rhwymo’, a welir hefyd yn yr Hen Norseg seiðr ‘hud; swyn, cyfaredd’, y Lithwaneg saĩtas ‘tidmwy’ a'r Slofeneg sit ‘brwynen’. Cymharer â'r Llydaweg hud a'r Gernyweg hus.

Enw

hud g (lluosog: hudau)

  1. Rhyw gast neu swyn goruwchnaturiol honedig a ddefnyddir i ddominyddu grymoedd naturiol.
  2. Swyn, cyfaredd.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Ansoddair

hud

  1. Cyfareddol, swyngyfareddol, rhithiol, lledrithiol.

Homoffon