Neidio i'r cynnwys

honni

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈhɔnɪ/
  • yn y De: /ˈhɔni/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol honni ‘cyhoeddi’ o’r Gelteg *swon-nī-, ffurf fynychol ar *swan-na- (a roes yr Wyddeleg seinn ‘chwarae, seinio (am offeryn cerdd)’), gradd sero o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *su̯enh₂- ‘seinio’ a welir hefyd yn y Lladin sonāre a’r Sansgrit svánati (स्वनति).

Berfenw

honni berf anghyflawn (bôn y ferf: honn-)

  1. Haeru heb brawf neu cyn profi
  2. Cynnig fel achos neu reswm yn enwedig i ymesgusodi rhag bai, cerydd neu atgasedd

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau