hebrwng

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Geirdarddiad

Brythoneg *sembronk- ~ sembrenk-, cyfansoddair o’r Indo-Ewropeg *sem- ‘un; ynghyd’ (fel yn hafal) + *bʰrenk- ~ bʰronk- ‘dod â’, â’r ail elfen a welir hefyd yn y Saesneg bring, y Dochareg B prānk- ‘cymryd i ffwrdd’ a’r Laftieg brankti ‘gorwedd yn agos’. Cymharer â’r Gernyweg hembronk ‘arwain’ a’r Llydaweg (h)ambroug ‘arwain, hebrwng’.

Berfenw

hebrwng berf anghyflawn (bôn: hebryng-)

  1. Arwain, tywys, trawsgludo.
  2. (gyda pherson) cydymdeithio â, cyd-fynd â, canymdeithio.

Cyfieithiadau