haul

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
(1) haul ein cysawd heulol
(2) Mae'r haul yn torri trwy'r coed mewn gardd ac yn tywynnu'r ddôl

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /haɨ̯l/
  • yn y De: /hai̯l/
    • ar lafar: /hɔi̯l/
  •  haul    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Cymraeg Canol heul o'r Gelteg *sāwol o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *sóh₂u̯l̥ a welir hefyd yn y Lladin sōl, yr Otheg sáuil, yr Hen Roeg hḗlios, y Lithwaneg sáulė, yr Afesteg huuarə̄ a'r Sansgrit svàr, sū́rya. Cymharer â'r Gernyweg howl a'r Llydaweg heol; ymhellach â'r Wyddeleg súil ‘llygad’.

Enw

haul g (lluosog: heuliau)

  1. (seryddiaeth) Seren, yn enwedig un sydd yng nghanol cysawd yr haul unigol.
  2. Y golau a gwres a dderbynir wrth yr haul.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Homoffon


Sillafiadau eraill

  • (enw priod, y seren y mae'r Ddaear yn cylchu): (prif lythyren) Haul

Enw Priod

yr haul

  1. Y seren y mae'r Ddaear yn cylchu ac yn derbyn golau a gwres wrthi.

Cyfieithiadau