Neidio i'r cynnwys

gwythïen

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Gwythiennau’r braich (1)

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɡʊɨ̯θɪ/
  • yn y De: /ˈɡʊi̯θɪ/

Geirdarddiad

Ffurf unigolynnol ar gwythi, lluosog yr anarferedig gŵyth b ‘gwythïen; ffrwd, cornant, ffos’ o’r Frythoneg *wēttā ‘cors, ffrwd’ o bosib o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯ei̯h₁- ‘gwywo’ fel yn y Cymraeg gwyw, edwi. Cymharer â’r Gernyweg gooth ‘sianel; piblinell; gwythïen’ a’r Llydaweg gwazh ‘nant; ffrwd melin’; ymhellach â’r Wyddeleg féith ‘giewyn, gwythïen’.

Enw

gwythïen b (lluosog: gwythiennau, gwythi)

  1. (anatomeg) Pibell waed sy’n cludo gwaed diocsigenedig o’r capilarïau yn ôl i’r galon.
  2. (mwynyddiaeth) Haenen o arian, glo, ayb.

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau