gwneud
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɡwneɨ̯d/
- ar lafar: /ɡneɨ̯d/, /neɨ̯d/
- yn y De: /ɡwnei̯d/
- ar lafar: /ɡnei̯d/, /nei̯d/
Geirdarddiad
Drwy ryngdoriad o’r ffurfiau gwneuthud, gwneuthur o’r Cymraeg Canol gwneithur, adffurfiad drwy ddadfathiad (n > r) o’r ffurf *gwreithur (fel yn y Cymraeg Canol gwreith ‘gwnes i’) o’r Gelteg *wreg-o- (a roes yr Hen Wyddeleg fairged ‘gwnaethon nhw’) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯erǵ- ‘gweithio’ a welir hefyd yn y Saesneg work ‘gweithio’, yr Hen Roeg érdō (ἔρδω) ‘gwneud, cyflawni’, yr Afesteg vərəziieiti ‘mae’n gweithio’ a’r Sansgrit vṛjyáte (वृज्यते). Cymharer â’r Gernyweg gul (bôn yn gwr-) a’r Llydaweg ober (bôn yn gr-).
Berfenw
gwneud berf gyflawn ac anghyflawn; afreolaidd (bôn y ferf: gwna-)
- Gweithredu neu ymgymryd a thasg.
- Roedd y ddynes wedi gwneud ei gwaith.
- Llunio, creu, peri i (un) fod.
Amrywiadau
- (yn llenyddol) gwneuthur
Gwrthwynebeiriau
Cyfieithiadau
|
|