Neidio i'r cynnwys

gweu

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Gweu (ystyr 1).

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɡweɨ̯/
  • yn y De: /ɡwei̯/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol gwëu o’r Gelteg *weg-io- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ueg- ‘gweu, clymu’ a welir yn y Lladin viēre ‘tro(i), dirwyn’, y Saesneg wick ‘pabwyr’ a’r Sansgrit vāgurá- ‘rhwyd’. Cymharer â’r Gernyweg gwia, y Llydaweg gweañ a’r Wyddeleg figh.

Berfenw

gweu berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: gwe-)

  1. Eilio edafedd o'r bellen â dwy neu ragor o wëyll er mwyn gwneud ffabrig.
  2. Gwehyddu.

Amrywiadau

Cyfystyron

Cyfieithiadau