gwenynen
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɡweˈnənɛn/
- ar lafar: /ɡweˈnənan/
- yn y De: /ɡweˈnənɛn/
Geirdarddiad
O'r Gelteg *wan-injo-, bachigyn *wano- ‘blaen, colyn’ a roes gwân. Cymharer â'r Gernyweg gwenen a'r Llydaweg gwenan.
Enw
gwenynen b (lluosog: gwenyn)
- (pryfeteg) Pryfyn hededog o'r is-ddosbarth Hymenoptera, grŵp Apiformes.
- Roedd y wenynen wedi gwylltio a chefais fy mhigo ganddi.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: gwenyna ~ gwenynu, gwenynog, gwenynol, gwenynwr
- cyfansoddeiriau: gwenynbryf, gwenynyddiaeth, gwenynyddol, gwenynfa, gwenynleiddiad, gwenynwraig, gwenynysor ~ gwenynyswr
- cyfuniadau: gwenynen weithgar, tŷ gwenyn
Cyfieithiadau
|
|