grug

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

  • Cymraeg y Gogledd: /ɡrɨːɡ/
  • Cymraeg y De: /ɡriːɡ/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol gwrug o’r Frythoneg *wrūcos o’r Gelteg *wroikos o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *wr̥Hḱ- a welir hefyd yn yr Hen Roeg ereíkē (ἐρείκη), y Lithwaneg vìržis a’r Tsieceg vřes. Cymharer â’r Gernyweg grug, y Llydaweg Canol groegan (unigolynnol) a’r Wyddeleg fraoch.

Enw

grug g (lluosog: grugoedd) neu torfol (unigolynnol: grugyn, grugen)

  1. (botaneg) Corlwyn bythwyrdd Ewrasia o’r ddau genera Erica a Calluna sy’n tyfu (weithiau i uchder o 50 centimetr) mewn crynswth trwchus ar fynyddoedd, rhosydd a gweunydd ac iddo ddail bychain hirfain a blodau porffor-pincaidd ar lun clychau bychain.

Amrywiadau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau