Neidio i'r cynnwys

gŵr

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /ɡuːr/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg gur ‘dyn’ o’r Gelteg *wiros o’r Indo-Ewropeg *u̯iHrós a welir hefyd yn y Lladin vir ‘dyn’, y Lithwaneg výras ‘dyn; priod’ a’r Ferseg bir (بیر) ‘arwr’. Cymharer â’r Gernyweg gour ‘priod’, y Llydaweg gour ‘neb; person (gram.)’ a’r Wyddeleg fear ‘dyn; priod’.

Enw

gŵr g (lluosog: gwŷr)

  1. Dyn sy’n briod i berson arall; cymar.
    Ar ôl iddynt briodi, roeddent yn ŵr a gwraig.
  2. (anarferedig) Bod dynol gwryw mewn oed.
    Roedd y gŵr o dan amheuaeth o ddwyn.

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau