ewythr

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • Cymraeg y gogledd: /ˈɛu̯.ɨ̞θr̩/
    • iaith lafar: /ˈɛu̯.ɨ̞rθ/
  • Cymraeg y de: /ˈɛu̯.ɪθr̩/
    • iaith lafar: /ˈɛu̯.ɪrθ/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol ewythyr, o'r Frythoneg *awontīr ‘ewythr frawd mam’, o'r Indo-Ewropeg *h₂euh₂-on- o'r un gwreiddyn *h₂éuh₂- ‘taid, ewythr’ ag a welir yn yr Hen Wyddeleg áue, úa, ó ‘taid; ŵyr’, Lladin avunculus ‘ewythr’, tafodiaith Almaeneg Awwe ‘taid, cyndad’. Cymharer â'r Gernyweg ewnter, y Llydaweg eontr a'r Hen Wyddeleg amnair.

Enw

ewythr g (lluosog: ewythredd)

  1. Brawd neu frawd yng nghyfraith i riant rhywun.
    Derbyniais anrheg wrth fy ewythr, sef brawd fy mam.

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Cyfieithiadau