eurof williams

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Mae Eurof Williams wedi bod yn cynhyrchu rhaglenni Teledu a Radio o bob math ers dros 40 mlynedd. ac yn y broses ennill gwobr BAFTA am ‘Rhaglen Adloniant Orau’, ‘Elvis Presley’. Mae’r rhain wedi amrywio o raglenni cerddorol i ddogfen; newyddion i raglenni plant. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr: 'Byd o Gân'. Bywgraffiad Jac Davies -hanner y ddeuawd poblogaidd Jac a Wil, Gwasg Gomer 'Twrw Jarman' Hanes y canwr Geraint Jarman ar ei daith gerddorol. Ysgrifenodd cofiant i Richard Jones, a'i frawd Wyn Jones, o'r grwp Ail Symudiad ar gyfer y cylchgrawn 'Barn'.

Manylion pellach: 2015-21 Cynhyrchu nifer o raglenni dogfen amrywiol i Radio Cymru

2015 Cynhyrchu’r rhaglen ‘Salem’ i S4C

2015 Cynhyrchu cyfres i BBC Radio 4 ‘Open or Wrapped..?!’ 2012 Cynhyrchu/Cyfarwyddo 10 rhaglen “Calon” i S4C 2011 Hyfforddi myfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant, Caerfyrddin ar gyfarwyddo ffilm a theledu. 2010-11 Ymchwilio a holi'r artist Geraint Jarman ar gyfer cyfrol i Wasg Gomer 2007-9 Swyddog Treftadaeth, Castell-nedd Port Talbot Venture yr Iaith Gymraeg, ymchwilio, cofnodi, golygu a chreu CD o dafodieithoedd lleol, yn ogystal â safle We. 2008 Golygydd cyfrol ar y diweddar Jac Davies (Jac a Wil) i Wasg Gomer 2008 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr "Canu Grwndi", gyda Siân Phillips, S4C 2005 Cynhyrchu nifer o raglenni i BBC Radio Cymru 2006 Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr "Bob Dylan", S4C 2005 Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr "John Lennon", S4C 2004 Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr "Bob Marley " S4C 2002-3 Uwch ddarlithydd, M.A. Astudiaethau'r Cyfryngau, Coleg y Drindod, Caerfyrddin 2000 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr “Mary Hopkin”, S4C 1999-2001 Cyfarwyddwr “Pobol y Cwm”, BBC i S4C 1997 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr "The Devolution Trail", BBC 2/Wales 1996 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr "Elvis", S4C (Ennillydd gwobr BAFTA "Rhaglen Adloniant Orau") 1995 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr Cyfres am yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Eluned Morgan, BBC/S4C 1994 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr "Sorted", cyfres i bobol ifanc ddi-waith, BBC2/Wales 1993 -. Heddiw Cyfarwyddwr Cynhyrchydd Teledu / Radio, gan weithio ar gynyrchiadau amrywiol ar gyfer ITVi Wales; y BBC ac S4C. Mae'r rhain wedi amrywio o raglenni dogfen i Adloniant Ysgafn; Ffermio i Grefydd via ‘Ffalabalam’!

1990-93 Uwch Gynhyrchydd/Cyfarwyddwr i'r Cylchgrawn nos weithiol "Heno 1982-90 Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr, HTV Cymru, gyda gofal dros nifer o gyfresi - o Ffalabalam i Sêr. 1977-82 Cynhyrchydd Radio, yn gyfrifol am y rhaglen bop boblogaidd ‘Sosban’, BBC Cymru. 1971-76 Rheolwr Stiwdio, BBC