Neidio i'r cynnwys

esgud

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Geirdarddiad

Cymraeg Canol escud o'r Gelteg *exs-skīto- ‘diflin’ o'r ansoddair *skīto- ‘blinedig’ (a roes y Gwyddeleg Canol scíth, y Gernyweg skwith a'r Llydaweg skuizh) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)keh₁t- ‘difrod, anaf’ a welir hefyd yn yr Iseldireg schade ‘difrod, anaf’ a'r Hen Roeg askēthḗs (ἀσκηθής) ‘cyfan a dianaf’. Cymharer â'r Gernyweg uskis ‘cyflym, buan’, y Llydaweg eskuit ‘diymdroi, di-oed’ a'r Wyddeleg éscaid ‘diymdroi, awyddus; buan, cyflym’.

Ansoddair

esgud

  1. (yn llenyddol) Yn symud neu'n medru symud ar gyflymder; yn digwydd yn sydyn neu fewn byr amser.

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Cyfieithiadau

Homoffon