cywarch

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Cae cywarch

Cynaniad

  • /ˈkəu̯arχ/

Geirdarddiad

Celteg *ko-werk(k)o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *u̯erg- ‘gwnïo, brodio’ a welir hefyd yn yr Almaeneg Werg ‘carth, ocwm’ a'r Roeg érgo (έργο) ‘gwaith; breisgion, carth’. Cymharer â'r Gernyweg kewargh, kowargh a'r Llydaweg (Gwened) kouarc'h.

Enw

cywarch g (bachigyn: cywarchen)

  1. (botaneg) Planhigyn llysieuol tal a buandwf o Asia a dyfir ymhell ac agos (Cannabis sativa o deulu'r Cannabaceae) ac sydd â ffibrau cwrs y rhisgl mewnol a ddefnyddir yn arbennig ar gyfer rhaffau ac a wahanir yn aml yn gyltifar tal denau o ganghennog (C. sativa) a chyltifar iseldwf drwchus o ganghennog (C. indica).

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau