cnewyllyn
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /knɛu̯.ˈəɬɨ̞n/
- yn y De: /knɛu̯.ˈəɬɪn/
Geirdarddiad
Ffurf unigolynnol cnewyll o’r Frythoneg *knowil(l)os ‘cneuen fach’, bachigyn yr enw *know ‘cneuen’; gw. cneuen.
Enw
cnewyllyn g (lluosog: cnewyll)
- Y craidd; y rhan ganolog o rywbeth, gyda phethau eraill wedi ymgasglu o’i amgylch.
- Gronyn neu hedyn, fel o laswelltau ŷd, wedi’i amgáu mewn cibyn neu eisinyn.
- Bywyn meddal bwytadwy’r tu mewn i blisg cnau, cerrig mewn ffrwythau.
- (sytoleg) Organyn crwn neu hirgrwn pilennog sy’n cynnwys cromosomau ac yn rheoli metaboledd y gell, ei thwf a’i atgenhedlu.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|